04/12/2008 - 01:06
Diweddarwyd - 03/12/2008 17:59
Cyflogaeth a Hyfforddiant
       

Mae cyflogaeth a hyfforddiant yn faterion allweddol i adfywiad llwyddiannus Caergybi.

Mae yna eisioes amrediad eang o gyfleusterau, cyrff, cyrsiau, a gweithgareddau yng Nghaergybi sy'n cefnogi cyflogaeth a hyfforddiant yn y dref. Mae rhai ohonynt wedi eu rhestru yma :-

Canolfan Gwaith / Gwasanaeth Cyflogaeth - mae Canolfan Gwaith Caergybi ar Stryd Newry Fawr ger canol y dref, ble mae cefnogaeth a gwybodaeth i rai sy'n chwilio am waith, ymghyd a gwasaethau eraill. Ffon 01407 602500

Working Links - mae hwn yn gynllun arbennig i helpu pobl economaidd anweithgar a di-waith tymor-hir i ddarganfod gwaith, ac mae ganddynt adeilad yn Stryd Boston yng nghanol y dref. Tel. 01407 769531

Canolfan JE O'Toole - mae Canolfan Gweithwyr Di-waith Caergybi wedi ei leoli yng nghanol y dref ac yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Ynys Mon. Ffon 01407 760208

Coleg Menai - mae cyfleusterau Coleg Menai yng Nghaergybi wedi eu lleoli yn Ty Cyfle yn Stryd y Farchnad, ble cynhelir amrywiol gyrsiau. Ffon 01407 765755

Cyrsiau Addysg Gymunedol - mae amrywiol gyrsiau ar gael yng Nghaergybi gan wahanol sefydliadau. Am wybodaeth am y rhain, ewch i www.cwrsimimon.org

Ymddiriedolaeth Cyfleoedd Caergybi - maent yn fenter cymunedol wedi eu lleoli yn Ty Cyfle ac mae nhw'n gweithredu nifer o gynlluniau hyfforddiant i waith ac eraill ar draws ardal ddaearyddol eang. Ffon 01407 765914

Cymunedau yn Gyntaf - mae y tri partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf yng Nghaergybi yn darparu gweithgareddau hyfforddi cymunedol o fewn eu hardaloedd penodol o'r dref.

Morlo - Ffon 01407 765119

Plas Cybi - Ffon 01407 765832

Porthyfelin - Ffon 01407 765832

Taran - Mae Fforwn Anabledd Mon yn gweithredu cynllun peilot arbennig yng Nghaergybi sy'n cael ei redeg gan Mandy Williams - Ffon 07918704528

Gyrfa Cymru - mae y ganolfan yn Sgwar y Farchnad yng nghanol y dref yn rhoi cymorth i rai 16-25 oed i fynd o addysg i waith. Ffon 01407 762177

Nid yw'r dudalen yma wedi ei gwblhau eto.

Cysylltwch efo Elizabeth White ar efwpl@anglesey.gov.uk am wybodaeth pellach ar y mater yma.

   

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2008