|
Cyswllt Caergybi a Dun Laoghaire
|
Mae Cyswllt Caergybi a Dun Laoghaire yn dyfod â phobl o'r ddau borthladd, tref ac ardaloedd cyfagos at eu gilydd. Ei amcan yw i hyrwyddo a hybu cyd-weithio rhwng y bobl a'r cymunedau o Dun Laoghaire a'r ardal, a Chaergybi a'r ardal. Cyd-weithio mewn agweddau o fywyd - gan gynnwys diwylliant, datblygu cymunedol, addysg, chwaraeon, arforol, yr Heddlu, amgylchedd, busnes a chyfleoedd economaidd. Mae'r Cyswllt yn gorff sydd heb duedd gwleidyddol, yn ddi-sectyddol ac yn wirfoddol.
Mae'r Cyswllt yn cyfarfod yn reolaidd, bob yn ail yng Nghaergybi a Dun Laoghaire. Mae'n gweithredu fel catalydd i ddyfod â phobl a sefydliadau at eu gilydd. Mae'n annog a chyd -weithio gyda phrosiectau sy'n cynnwys pobl a sefydliadau o Gymru ac Iwerddon. Mae aelodaeth ar gael i unigolion a sefydliadau sy'n derbyn rheolau ac amcanion y Cyswllt, a thalu y tanysgrifiad blynyddol.
Llwyddodd y Cyswllt i sicrhau arian Interreg UE i gefnogi eu gweithgareddau.
Mae esiamplau o weithgareddau a phrosiectau y Cyswllt i'w canfod isod:-
- Pabell Caergybi - Dun Laoghaire yn Sioe Môn
- Presenoldeb y Cyswllt yn y Sioe Ceffylau, Dun Laoghaire
- Prosiect ar y cyd i gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a'r Garda
- Prosiect Arlunio a Ffotograffiaeth, i gynnwys ysgolion
- Digwyddiadau pêl droed a bocsio
- Dathliadau Nadolig
- Digwyddiad coffa Leinster
Cyswllt
Jeff Evans
d/o J.E.O'Toole Centre,
Trearddur Square,
Holyhead
Ffôn: 01407 760208
E-bost: jmehp@anglesey.gov.uk