Ceir gwahanol ffynonellau ariannu a chynlluniau anogaeth y perir eu bod ar gael yng Nghaergybi. Mae'r hyn a ganlyn yn darparu crynodeb o'r prif gynlluniau. Nid yw'r rhestr yn un gyfansawdd a gall fod cynlluniau eraill yn bodoli sy'n berthynol i'ch prosiect.
Nid yw rhestru cynlluniau yma o angenrheidrwydd yn golygu eu bod ar gael ar hyn o bryd, neu y bydd eich prosiect yn gymwys.
BUDDSODDIAD EIDDO
Grant Gwella Masnachol (CIG) - Cynllun anogaeth gwella eiddo'r Cyngor Sir (dim cyllid ar hyn o bryd)
Grant Gwella'r Dref (TIG) - Cynllun anogaeth gwella eiddo allanol y Cynulliad (WDA gynt).
Menter Treftadaeth Treflun (THI) (heb fod yn weithredol eto yng Nghaergybi) - Cynllun i gynorthwyo gwella adeiladau o fewn Ardaloedd Cadwraeth Dynodedig.
Grant Tai Landlordiaid - Cynllun i annog buddsoddiad mewn adeiladau sydd ohoni i greu unedau tai i'w rhentu.
Grantiau Gwella Tai - Cynllun i gynorthwyo perchnogion tai i wella eu tai.
Eithriadau Stampdoll - Cynllun i annog buddsoddiad eiddo mewn rhai ardaloedd dynodedig.
DIWYDIANT A BUSNES
Grantiau Cefnogi Busnes
Ystod o grantiau Cyngor Sir i gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint i fuddsoddi.
Grant Buddsoddi y Cynulliad (SIF) - Cynllun newydd cyfunol ar gyfer cefnogi buddsoddiad ar gyfer prosiectau busnes cymwys, yn cynnwys sectorau diwydiannol a twristiaeth.
Cymorth Detholedig Rhanbarthol (RSA) - Cynllun cefnogi buddsoddiad cyfalafol ar gyfer prosiectau mawr eu maint y Cynulliad Cenedlaethol.
PRIF BROSIECTAU ADFYWIO / ISADEILEDD/ ECONOMAIDD
Mae'r arian a ganlyn wedi ei sicrhau yng Nghaergybi:
Arian Amcan Un Ewropeaidd (gweler isod)
Cronfa Adfywio Leol y Cynulliad Cenedlaethol
Grant Cludiant y Cynulliad Cenedlaethol
Y Cynulliad Cenedlaethol - Cynlluniau Eraill
ARIAN EWROPEAIDD
Mae Caergybi wedi ei leoli o fewn ardal Amcan Un yr UE, ac mae wedi gallu cymhwyso ar gyfer cyllid o dan wahanol ddosbarthiadau ers 2001. Dyrannwyd y cyllid mewn nifer o ddosbarthiadau cymhwyso penodol, pob un gyda'i feini prawf ei hun. Roedd yn rhaid gwneud cais am arian, mewn cystadleuaeth â phrosiectau eraill drwy Orlllewin Cymru a'r Cymoedd. Hyd at Fawrth 2006, roedd cyfanswm arian Amcan Un a gymeradwywyd ar gyfer Ynys Môn yn dod i oddeutu £30M, y cymeradwywyd oddeutu £10M ohono ar gyfer prosiectau wedi eu lleoli yng Nghaergybi. Rhaid i wariant Amcan Un ar gyfer Cymru fod wedi ei wneud cyn diwedd Rhagfyr 2008 i fod yn gymwys. Mae taflen wedi ei pharatoi yn nodweddu prosiectau a ariannwyd gan Amcan Un yng Nghaergybi, ac mae ar gael ar gais.
Cyllid Cydgyfeirio
Mae rownd newydd o arian cefnogi rhanbarthol yr UE ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi ei gadarnhau, ac mae rhai cynlluniau eisioes wedi eu cymeradwyo. Dylai'r "Gronfa Gydgyfeirio" fod ar gael am saith mlynedd, a tua'r un maint ag Amcan Un. Mae'r trefniadau ariannu a'r gweithgareddau cymwys ychydig yn wahanol i'r rhai o dan y rhaglen Amcan Un. Gweler gwefan WEFO am y manylion diweddaraf.
Gwefan: www.wefo.wales.gov.uk
www.mon-ewrop.org
PROSIECTAU CYMUNEDOL
Mae'r rhestr canlynol yn cynnwys ychydig o'r ffynhonellau ariannu sy'n bosibl ar gyfer Caergybi:
Dyfarniadau i Bawb (Y Loteri)
Pobl a Lleoedd (Y Loteri)
Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau'n Gyntaf
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Y Loteri Chwaraeon
Grantiau i Gyrff Gwirfoddol
Mongallwn
Grant Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol
Cynlluniau Menter Môn
Ymddiriedolaeth Trefnyddiaeth Rank
Yn ogystal mae yna nifer o gynlluniau ariannu eraill.
Mae Medrwn Môn yn darparu gwasanaeth darganfod grant i grwpiau cymunedol a gwirfoddol (Rhif ffôn: 01248 724944).
ARIANNU - CYNGOR CYCHWYNNOL AC ARWYDDBYST
Gellwch gysylltu â Dewi Lloyd neu Elizabeth White am gyngor cychwynnol a'r llwybr ariannu gorau a awgrymir/ymgynghorydd ar gyfer eich prosiect - Rhif ffôn: 01407 764555 neu Symudol 07747 118608. Gallwch hefyd gysylltu â'r Adain Ariannu neu Llygad Busnes yng Nghanolfan Fusnes Môn - Rhif ffôn: 01248 752480