04/12/2008 - 00:08
Diweddarwyd - 03/12/2008 17:59
Cymorth a Chyngor
       

Gellir cael cefnogaeth a chyngor yn aml yn rhad ac am ddim ar gyfer cynorthwyo i ddatblygu prosiectau yng Nghaergybi.

Gwybodaeth ac Arwyddo Cychwynnol

Mae staff Adfywio Economaidd Caergybi'r Cyngor Sir yn darparu arweiniad, gwybodaeth a gwasanaeth arwyddo cychwynnol, ar gyfer y rhai sydd â'u bryd ar ddatblygu gwahanol fathau o brosiectau yn ardal Caergybi. Cysyllter â Dewi Lloyd neu Elizabeth White ar Rif ffôn 01407 764555 (neu 01248 752480), neu drwy'r wefan hon.

Prosiectau Cymunedol Lleol

Dylai partneriaeth gymunedol yr ardal leol allu cynorthwyo / cynghori gyda'r mathau hyn o brosiectau - gweler yr adran ar wahân am fanylion cyswllt. Os yw'ch prosiect wedi ei leoli y tu allan i ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf neu ei fod yn ehangach ei gwmpas, awgrymir eich bod yn cysylltu â Medrwn Môn (asiantaeth cefnogi sector gwirfoddol Ynys Môn) ar rif ffôn 01248 724944.

Ymholiadau Cefnogi Busnes

Mae Cefnogaeth Hyblyg i Fusnes yn wasanaeth cefnogi busnes amhleidiol a di-dâl a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Gellir cysylltu â hwy ar rif ffôn 03000 6 03000 -neu  gweler www.business-support-wales.gov.uk am fanylion pellach. Mae eu swyddfa leol yng Nghanolfan Fusnes Môn yn Llangefni, Rhif ffôn: 01248 752480, ond gallant fynychu cyfarfodydd gyda busnesau yng Nghaergybi drwy drefniant blaenorol.

Menter Môn yw'r asiantaeth fenter ar gyfer Ynys Môn, wedi ei lleoli yn Llangefni, rhif ffôn 01248 725700, gwefan www.mentermon.com

Ymholiadau Gwella Eiddo

Dylid cyfeirio ymholiadau gwella eiddo cychwynnol ar gyfer canol y dref ar Dewi Lloyd ar 01407 764555. Fel arall cysylltwch â Dave Jump o Wasanaeth Cynllunio'r Cyngor Sir ar 01248 752461. Yn benodol dylid cyfeirio ymholiadau gwella tai at yr Adain Grantiau Tai ar Rif ffôn 01248 750057.

Ymholiadau Buddsoddiad Mawr/Mewnol

Gellir cyfeirio ymholiadau o'r fath at Dewi Lloyd ar Rif ffôn 01407 764555. Fel arall cysylltwch â Doug Barnes Uned Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn yn Llangefni ar 01248 752480, neu John Humphreys neu Brian Rees Jones yn Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol ar Rif ffôn 01745 586244.

Mathau Eraill o Ymholiad

Gall y bydd y rhai a ganlyn yn gallu cynorthwyo:

  • Cyngor ar Bopeth (CAB) - Rhif ffôn: 0845-120 3708
  • Llyfrgell Caergybi - Rhif ffôn: 01407 762917

 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2008