06/01/2009 - 19:55
Diweddarwyd - 24/12/2008 09:59
Tai a Phreswyl
       

Datblygiadau Preswyl Newydd

Ceir nifer o safleoedd datblygu preswyl newydd yng Nghaergybi, Bae Trearddur a'r Fali. Gellir cael gwybodaeth ar safleoedd gyda chaniatâd cynllunio neu ddynodiadau cynllunio o Adran Gynllunio'r Cyngor Sir - Rhif ffôn: 01248 752428.

Tai Glan y Môr

Mae datblygiad masnachol/preswyl cymysg £5M newydd gymeryd lle ym Marina Caergybi, ac wedi profi'n boblogaidd iawn. Mae caniatâd cynllunio'n bodoli hefyd i newid Ty Porthyfelin gerllaw yn fflatiau, ac i adeiladu tai newydd yn y tir o'i gwmpas. Mae ceisiadau cynllunio preswyl glan-y-dwr eraill dan ystyriaeth yn yr ardal yma o'r dref.

Gwerthwyr Tai

Mae'r Gwerthwyr Tai a ganlyn wedi eu lleoli yng Nghaergybi:

Gwella Tai

Fel tref a ehangodd yn gyflym yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae gan Gaergybi lawer o dai teras hyn. Cafodd llawer o'r rhain eu gwella yn rhan o gynllun deng mlynedd £10M Ardal Adnewyddu Tai Caergybi. Mae grantiau gwella tai yn parhau i fod ar gael mewn achosion cymwys. Mae cynllun gwella tai £4M dros dair blynedd ar y gweill

Cynllun gwella tai cyngor Caergybi

Cysylltwch ag Adain Grantiau Tai Cyngor Sir Ynys Môn am fanylion pellach - rhif ffôn 01248 750057.

Buddsoddi i rentu

Mae gan Gaergybi sector sylweddol o lety preifat a rentir a chaiff ei adnabod fel ardal o angen tai. Perir bod anogaethau ar gael i landlordiaid preifat i addasu neu wella'r adeiladau presennol yn unedau preswyl mewn achosion cymwys.

Cysylltwch ag Adain Grantiau Tai Cyngor Sir Ynys Môn am fanylion pellach o gynlluniau Grantiau Landlordiaid a Gwarant Rhent - ffoniwch 01248 750057.

Tai Cymdeithasol

Mae Caergybi'n cynnwys llawer o ardaloedd o dai rhentedig yr awdurdod lleol. Ceir hefyd nifer sylweddol o ddatblygiadau cymdeithasau tai.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Gwasanaeth Tai Cyngor Sir Ynys Môn - rhif ffôn 01248 750057.

 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2009