Mae nifer fawr o brosiectau datblygu ac adfywio cymunedol yn awr ar y gweill yng Nghaergybi.
Mae'r hyn a ganlyn yn rhestru'r mwyaf arwyddocaol, ond nid yw'n gyfansawdd. Am wybodaeth lawnach ar ddatblygu cymunedol, cysylltwch â'r partneriaethau cymunedol yn uniongyrchol.

Cymunedau'n Gyntaf
Rhaglen adfywio cymunedol deng mlynedd yw hon a weinyddir ac a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda golwg ar wella bywydau pobl yng nghymunedau mwyaf amddifadedig Cymru. Mae dros 100 o wardiau yng Nghymru wedi cymhwyso ar gyfer eu cynnwys, yn cynnwys pedair ardal yng Nghaergybi. Mae'r Partneriaethau gyda'i gilydd yn cyflogi dros 30 o staff a maent yn cymryd rhan mewn ystod eang o brosiectau adfywio cymunedol. Mae'r cynulliad cenedlaethol ar hyn o bryd yn adolygu trefniadau pellach yng ngoleuni ystadegau newydd.
Canolfannau Cydweithredol Bwyd
Mae'r partneriaethau cymunedol wedi sefydlu canolfannau cydweithredol bwyd i wella diet preswylwyr lleol. Mae'r rhain yn darparu ffrwythau a llysiau i bobl leol ar gost resymol
Gweithgareddau Cefnogi Ieuenctid a Theulu
Mae gwahanol glybiau ieuenctid a gweithgareddau'n cael eu trefnu'n rheolaidd yng Nghaergybi. Darperir llawer o weithgareddau ar gyfer pobl a phlant ifainc mewn canolfannau cymunedol ac mewn lleoliadau chwaraeon. Mae mentrau diweddar yn cynnwys clwb ieuenctid newydd a menter gerddorol. Mae ymgynghoriad ieuenctid Caergybi-eang yn cael ei drefnu gan y partneriaethau cymunedol. Mae Grwp Gweithredu'r Ifanc yn cyfarfod yn rheolaidd yn yr Ysgol Uwchradd, wedi ei weinyddu gan Bartneriaeth Porthyfelin. Mae gwahanol weithgareddau a phrosiectau ar y gweill hefyd i gynorthwyo teuluoedd mewn gwahanol ffyrdd. Mae crèche cymunedol newydd wedi ei greu ym Morawelon. Mae clwb newydd cyn/ar ôl ysgol wedi ei ddarparu ar safle ysgol y Santes Fair.
Hyfforddiant Cymunedol
Mae gwahanol gyrsiau a chyfleoedd hyfforddi'n cael eu darparu mewn gwahanol leoliadau o amgylch Caergybi - mae'r rhain yn cynnwys Canolfan JE O'Toole, Ty Cyfle, ysgolion a chanolfannau cymunedol. Mae cyfleusterau hyfforddi TG Newydd wedi eu gosod mewn gwahanol leoliadau yn y dref.
Canolfannau Cymunedol
Ceir nifer o ganolfannau cymunedol gweithredol yng Nghaergybi. Mae llawer o ganolfannau wedi cael eu gwella'n ddiweddar (eg Neuadd y Dref) ac mae cynlluniau'n cael eu datblygu i wella eraill. ee Canolfan Gymunedol Kingsland a Chanolfan Waterside (Vicarage Lane). Mae Canolfan Gymunedol wedi ei greu yn yr hen Ganolfan Deils ar Ffordd Llundain.
Prosiectau Amgylcheddol
Mae gwahanol brosiectau amgylcheddol cymunedol ar y gweill ee cyflogi gweithwyr amgylcheddol canol y dref, sesiynau codi ysbwriel a chyfrifiadau amgylcheddol.
Cyfrifiadau Anghenion Cymunedol
Ymgymerwyd ag ymgynghori Cymunedol a chyfrifiadau anghenion i adnabod problemau lleol, anghenion, blaenoriaethau a syniadau.