06/01/2009 - 19:30
Diweddarwyd - 24/12/2008 09:59
Sector Forwrol
       

Bu'r sector morwrol bob amser yn bwysig iawn i Gaergybi a mae'n awr yn darparu posibilrwydd economaidd newydd ar gyfer y dref.

marina caergybi

Marina Caergybi

Mae Marina Caergybi yn awr wedi ei sefydlu ac mae'n ehangu dros gyfnod tuag at y cyfleuster angori i 500 yn y pen draw ac mae caniatâd cynllunio i hynny. Ceir ar hyn o bryd oddeutu 200 o angorfeydd. Mae'r datblygiad marina oddeutu £5M oddi ar y lan o unedau masnachol a phreswyl wedi ei gwblhau ers mis Medi 2006. Cafodd llawer o'r fflatiau eu rhag-werthu. Mae'r datblygiad allweddol hwn yn profi i fod yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad preifat pellach yn yr ardal. www.holyheadmarina.co.uk

Hamdden Morwrol

Mae'r cyfuniad o Glwb Hwylio mawr sefydledig a'r Marina newydd wedi arwain at nifer cynyddol o ddigwyddiadau a rasys hwylio yn galw yng Nghaergybi ee Y Cyrch Ewyllys Da Celtaidd, a'r Digwyddiad Hwylio Gaffers. Ceir nifer o fusnesau hamdden morwrol yn yr ardal, yn cynnwys y rhai sy'n darparu gweithgareddau neu offer ar gyfer hwylio, cychod, canwio môr, deifio, syrffio, pysgota a theithiau cychod. Mae hwn wedi ei adnabod yn sector twf ar gyfer Ynys Môn a Chaergybi yn arbennig.

Iard Gychod Caergybi

Mae Iard Gychod Caergybi yn gyflogwr sylweddol yn y dref, yn darparu llawer o swyddi medrus peirianneg forwrol. Maent yn gweithredu mewn marchnad ryngwladol ac yn darparu gweithgareddau o safon fyd-eang. Ymgymerodd y cwmni yn ddiweddar â £1M o ehangu eu cyfleusterau i ganiatáu iddynt adeiladu neu atgyweirio/gwasanaethu llongau mwy. www.holyhead.co.uk

Y Diwydiant Pysgota

Caergybi yw'r porthladd pysgota pwysicaf yng Ngogledd Cymru a mae'n cofnodi glanio pysgod blynyddol gwerth oddeutu £3M. Mae'r Cyngor Sir yn rhedeg y Doc Pysgod. Fe grewyd Cymdeithas Bysgota Ynys Môn a Gogledd Cymru, a trwy arian Ewrop a gan y Cynulliad, fe lwyddodd i gyflogi staff a rhedeg nifer o brosiectau pysgota ee darparu offer diogelwch morwrol a gwella cyfleusterau'r harbwr ym Mol Sach. Mae dyfodol y fenter yn dibynnu ar drefniadau cyllid Ewrop newydd. Rhif ffôn: 01407 769034

Potensial Glannau'r Dref

Mae Bwrdd Caergybi Ymlaen wedi adnabod y posibiliadau economaidd a ddarperir gan ardal arfordir helaeth Caergybi. Mae angen wedi ei adnabod i sicrhau yr ystyrir yr ardal mewn ffordd gydlynus sy'n gwneud y mwyaf o'r manteision i'r ardal.


 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2009