Awdurdod y Sir
Cyngor Sir Ynys Môn yw'r awdurdod llywodraeth leol unedol ar gyfer y sir, sydd yn un o 22 sir yng Nghymru. Adenillodd Ynys Môn statws sirol yn 1996, wedi bod yn rhan o sir fwy Gwynedd ers 1974. Mae canolfan weinyddol Ynys Môn yn Llangefni. Caergybi yw'r dref fwyaf ar Ynys Môn mewn maint a phoblogaeth.
Cynghorwyr Sirol
Mae'r cyngor yn cynnwys 40 o Gynhorwyr etholedig, yn cwmpasu eu wardiau eu hunain. Ceir saith ward yng Nghaergybi, gyda ward bellach yn cwmpasu Bae Trearddur/Rhoscolyn.
Yr wyth Cynghorydd Sirol yn dilyn etholiad Mai 2008 yw:
Y Cyng. Cliff Everett (Ward Tref Caergybi)
Y Cyng. Robert Llewelyn Jones (Ward Porthyfelin)
Y Cyng. John Chorlton (Ward Kingsland)
Y Cyng. John V. Owen (Ward Parc a'r Mynydd)
Y Cyng. Raymond Jones (Ward Ffordd Llundain )
Y Cyng. Arwel Roberts (Ward Morawelon)
Y Cyng. Trefor Lloyd Hughes (Ward Maeshyfryd)
Y Cyng. Eric Roberts (Ward Trearddur)
Gwasanaethau'r Cyngor
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cyflwyno ystod eang o wasanaethau llywodraeth leol, yn cynnwys Priffyrdd, Addysg, Casglu Gwastraff, y Gwasanaethau Cymdeithasol, safonau Masnach, Tai, Cynllunio, Datblygu Economaidd, Amgylchedd, Budd-daliadau, Hamdden ac Eraill.
Cyngor Sir Ynys Môn yng Nghaergybi
Tra bo mwyafrif staff y Cyngor Sir wedi eu lleoli yn Llangefni, ceir nifer sylweddol o gyfleusterau a staff y Cyngor Sir wedi eu lleoli yng Nghaergybi.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Canolfan Hamdden Caergybi, Ysgol Uwchradd Caergybi, Ysgolion Cynradd, Canolfan JE O'Toole, Swyddfa Dai a Chyllid yn Stryd Newry, swyddfeydd a chyfleusterau'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Parc Caergybi, swyddfa Cymunedau'n Gyntaf yn Neuadd y Dref, swyddfa Caergybi Ymlaen yn Nhy; Cyfle. Mae staff Cyngor Sir Ynys Môn yn gyfrifol am lawer o'r gweithgaredd adfywio sydd ar y gweill neu a gynllunnir ar gyfer y dref, yn cynnwys Caergybi Ymlaen ar y wefan hon.
Cyswllt a Gwybodaeth
Rhif ffôn 01248 750057 www.ynysmon.gov.uk
