03/12/2008 - 21:48
Diweddarwyd - 03/12/2008 17:59
Sector Breifat
       
Mae diddordeb ac ymwneud y sector preifat yn adfywio Caergybi yn hanfodol os yw'r strategaeth i lwyddo. Mae'r prif bartneriaid sector preifat yn adfywio'r dref yn cael eu crynhoi isod:

Siambr Fasnach Caergybi a'r Cyffiniau

Adnabuwyd yr angen am drefnyddiaeth fusnes leol ar gychwyn Carrgybi Ymlaen, a diolch i ymdrechion unigolion allweddol, mae corff gweithredol yn awr wedi ei greu i gynrychioli buddiannau busnes lleol, wedi ei sefydlu'n gwmni cyfyngedig nid er elw. Cyswllt a gwybodaeth: Ann Kennedy, Ffôn 01407 765914, neu Alan Darroch Ffon 01407 760111.

Busnes ar Ynys Môn

Mae'r sefydliad hwn hefyd wedi ei sefydlu'n ddiweddar i gynrychioli buddiannau busnes drwy'r sir. Mae ganddynt nifer o aelodau o ardal Caergybi ac maent wedi derbyn cyflwyniad ar weithgareddau adfywio Caergybi.
Website: www.businessonanglesey.com

Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB)

Mae hwn yn sefydliad mawr drwy'r DU i gyd ar gyfer busnesau bach ac sydd iddo nifer o aelodau o ardal Caergybi. Mae trefnydd FSB ar gyfer Ynys Môn ynghlwm wrth weithgareddau adfywio Caergybi.

Porthladdoedd Stena Cyf. a Stena Line Cyf.

Mae Stena yn brif gyflogwr a deilyddion portffolio eiddo Ynys Môn wedi ei leoli yng Nghaergybi ac yn rhan o grwp busnes rhyngwladol wedi ei leoli yn Sweden. Hwy yw Awdurdod Porthladd Caergybi yn ogystal â/ bod yn weithredydd fferi.

Yn ddiweddar fe ail-leolodd Stena nifer o'u gwasanaethau led-led Prydain i Gaergybi. Mae hyn yn cynnwys: Canolfan-alw 50-person newydd sy'n delio gyda archebion fferi Prydain / Iwerddon, staff rheoli llynges Prydeinig Stena, a gwasanaethau TG Stena ar gyfer llongau a porthladdoedd Prydeinig.

Mae Stena wedi bod/yn ynghlwm wrth gynorthwyo nifer o brosiectau adfywio yn y dref, yn cynnwys noddi costau staff adfywio, cynlluniau marchnata twristiaeth Caergybi a gweithgareddau siambr. Maent hefyd yn aelodau o Fwrdd a Grwp Strategol Caergybi Ymlaen. www.stenaline.co.uk &  www.stena.com

Metal Alwminiwmm Môn Cyf.

Alwminiwm Môn yw prif gyflogwr diwydiannol Caergybi. Mae gan y cwmni bolisi o weithio gyda cymunedau lleol, an maent wedi cynorthwyo llawer o brosiectau a grwpiau lleol. Mae'r cwmni yn aelodau o Fwrdd Caergybi Ymaen Roeddent yn bartneriaid yn Astudiaeth Effaith Economaidd-Gymdeithasol cau'r Wylfa. Gellir islwytho'r crynodeb gweithredol islaw

llun Alwminiwm Môn

botwm pdf Wylfa ac Alwminiwm Môn, Asesiad o'r Effaith Economaidd-Gymdeithas
Crynodeb Gweithredol Chwefror 2006

Gellir ymweld â gwefan Alwminiwm Môn drwy glicio yma


Iard Gychod Caergybi (Holyhead Boatyard)

Mae'r cwmni wedi bod yn noddi cost staff adfywio lleol, a maent yn rhoi amser uwch-staff i gynorthwyo gydag adfywio'r dref ee rhedeg y Siambr Masnach. www.holyhead.co.uk

 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2008