Grwpiau Caergybi Ymlaen
Yn rhan o drefniadau Caergybi Ymlaen a wnaed yn 2003, mae nifer o grwpiau wedi cael eu sefydlu i oruchwylio cyflwyno'r strategaeth adfywio. Bu llawer o newidiadau ers 2003 ac mae arolwg o'r grwpiau hynny wedi digwydd i sicrhau bod trefniadau yn amser-effeithlon ac yn gost-effeithlon ac yn osgoi dyblygu.

Grwp Strategol Caergybi Ymlaen
Swyddogaeth y grwp hwn yw monitro'r cynnydd cyfan rhwng cyfarfodydd Bwrdd, cysylltu gwaith gwahanol grwpiau ac adnabod materion allweddol sydd angen ymroi iddynt. Cyng. John Chorltan yw'r Cadeirydd. Cynrychiolir y Siamber Masnach a'r Grwp Caeirddion Cymunedau yn Cyntaf ar hwn. Cyng. John Chorltan yw'r Cadeirydd.
Grwp Pecyn Cludiant ac Amgylchedd Caergybi (HTEP)
Mae'r grwp hwn yn goruchwylio cynllunio a chyflwyno gwaith gwella cludiant a'r fro drefol, yn cynnwys Cynllun y Porth Celtaidd, Cynllun Adfywio Canol y Dref, Adleoli Pencadlys yr Orsaf a chynigion Ymestyn yr A55. Mae'r grwp yn derbyn adroddiadau gan Grwp Prosiect Cynllun Adfywio Canol Tref Caergybi, cyfarfodydd Prosiect Gorsaf y Rheilffordd ac eraill. Cyng. John Chorltan yw'r Cadeirydd
Grwp Sgiliau a Hyfforddi Caergybi
Mae hwn yn dwyn ynghyd cyrff hynny sy'n ymwneud â gweithgareddau sgiliau a hyfforddi yng Nghaergybi. Mae'r cyfrifiad wedi dangos y darperir nifer o wasanaethau cyffelyb gan lawer o gyrff a chytunodd y cyfarfod i'r angen am well cydlynu o fewn Caergybi. Ann Kennedy sy'n cadeirio'r grwp.