Y Bwrdd
Mae Bwrdd Caergybi Ymlaen wedi ei greu er mwyn goruchwylio cyflwyno Strategaeth Adfywio Caergybi Ymlaen. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod bob chwe mis. Corff partneriaeth anffurfiol ydyw ac mae ganddo statws cyffelyb i Bartneriaeth Adfywio Economaidd Ynys Môn. Mae aelodau'r Bwrdd yn cynnwys uwch-gynrychiolwyr o'r gymuned leol, busnesau lleol a'r sector cyhoeddus.
Cadeirydd Annibynnol
Cadeiriwyd y bwrdd i ddechrau gan Reolwr Gyfarwyddwr y Cyngor Sir. Penodwyd cadeirydd annibynnol newydd ym Mawrth 2005, yn dilyn gwahoddiad cyhoeddus a phroses ddethol agored. Mae'n wreiddiol o Gaergybi, yn byw ar Ynys Môn ac mae ganddo gysylltiadau teuluol cryf â'r dref. Yn bresennol mae o'n Gyfarwyddwr i Grwp Tai 'Pennaf'. Maen't wedi cytuno ei ryddhau o'r gwaith os oes angen iddo fynychu cyfarfodydd y Bwrdd. Mae Is-gadeirydd hefyd wedi ei apwyntio o aelodau'r Bwrdd a cafodd Alan Darroch ei benodi i'r swyddogaeth yma. Ei waith yw Cyfarwyddwr Cyllid Iard Gychod Caergybi. Nid ydynt yn derbyn tâl am eu rol fel cadeirydd / is-gadeirydd.
Aelodau'r Bwrdd
Rhestrir aelodau presennol y Bwrdd isod:
| Mr Steve Jones |
Cadeirydd, Bwrdd Caergybi Ymlaen |
| Cyng Phil Fowlie |
Arweinydd Cyngor Sir Ynys Mon |
| Mr Derrick Jones |
Rheolwr Gyfarwyddwr, CSYM |
| Ms Carys Thomas |
Rheolwr Cymunedau'n Gyntaf, Gogledd Cymru LLYC |
| Mr Albert Owen |
Aelod Seneddol Ynys Môn |
| Mr Ieuan Wyn Jones |
Aelod Cynulliad dros Ynys Môn |
| Cyng/Cllr Bryan Owen |
Daliwr Portffolio - Datblygu Economaidd , CSYM |
| Mr Dennis Evans |
Cadeirydd, PAEM |
| Mr David Sheppard |
Cadeirydd, Siambr Fasnach |
| Mr Wyn Parry |
Rheolwr Porthladd, Stena |
| Mr David Bloor |
Rheolwr Gyfarwyddwr, Alwminiwm Môn |
| Mr Dewi Davies |
Rheolwr - Partneriaeth Dwristiaeth Gogledd Cymru |
| Mr Martin Wise |
Pennaeth, Ysgol Uwchradd Caergybi |
| Cyng Cliff Everett |
CSYM - Tref Caergybi & Clerc y Cyngor Tref |
| Ms Ann Kennedy |
Ymddiriedolaeth Cyfleoedd Caergybi |
| Mr James Lee |
Cadeirydd, Partneriaeth Plas Cybi |
| Cyng/Cllr. Robert Ll. Jones |
CSYM - Porthyfelin |
| Cyng/Cllr. Raymond Jones |
CSYM - London Road |
| Cyng/Cllr. John Arwel Roberts |
CSYM - Morawelon |
| Cyng/Cllr. J. Chorlton |
CSYM & Cadeirydd Grwp Cludiant ac Amgylchedd Caergybi |
| Mr Alan Darroch |
Is-Gadeirydd, Siambr Fasnach |
| Cyng/Cllr Trefor Lloyd Hughes |
CSYM - Maeshyfryd |
| Cyng/Cllr John Victor Owen |
CSYM - Parc a'r Mynydd |
| Cyng/Cllr Eric Roberts |
CSYM - Trearddur |
|
|
| Bydd y rhestr yma yn newid dros amser |
|
Cyfarfodydd y Bwrdd
Cynhalwyd cyfarfodydd ar y 13 Gorffennaf 2007, 12fed Hydref 2007, a'r 11fed Ebrill 2008. Bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd ar Ddydd Gwener y 12fed Rhagfyr 2008 am 10am. Mae copi o bapurau cyfarfod diwethaf y Bwrdd ar gael isod.
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd
Gweinyddir y Bwrdd gan staff Adfywio Economaidd Caergybi Cyngor Sir Ynys Môn: Dewi Lloyd ac Elizabeth White - Ffôn 01407 764555 neu 01248 752483.