03/12/2008 - 22:23
Diweddarwyd - 03/12/2008 17:59
Proffil Caergybi
       

Poblogaeth

Poblogaeth breswyl y dref yn ôl Cyfrifiad 2001 oedd 11,237. Roedd poblogaeth breswyl Ynys Cybi yn ei chyfanrwydd yn 13,579. Mae poblogaeth Caergybi wedi disgyn o ychydig yn y degawdau diweddar oherwydd gwahanol ffactorau, sy'n cynnwys adeiladu tai cyfyngedig, maint llai cartrefi, newidiadau demograffaidd, ac amgylchiadau economaidd lleol. Mae'r boblogaeth yn yr ardaloedd amgylchynol megis Bae Trearddur wedi bod yn cynyddu.

Canol y dref diwrnod Marchnad

Hanes

Mae'r dref yn dyddio'n ol i adeiladu Caer Llynges Rhufeining tua 300AD, a sefydlu canolfan grefyddol o fewn ei muriau tua 540AD. Tyfod tref fechan yn raddol o'i chwmpas yn y canrifoedd oedd yn dilyn. Datblygodd Caergybi yn dref sylweddol yn bennaf oherwydd ei swyddogaeth fel porthladd sy'n cysylltu Iwerddon a Phrydain, a phenderfyniad y Morlys i greu harbwr cysgodol mawr yn lloches i longau hwylio drwy adeiladu'r morglawdd. Daeth hefyd yn ganolfan bwysig ar gyfer y rheilffyrdd. Datblygodd gwestai a siopau o hynny a daeth Caergybi yn brif dref wasanaeth ar gyfer llawer o Ynys Môn. Mae'r dref wedi datblygu hefyd yn ganolfan ddiwydiannol, yn cynnwys adeiladu ac atgyweirio cychod. Lleolwyd nifer o ffatrïoedd yng Nghaergybi yn ystod yr ugeinfed ganrif, gyda'r mwyndoddwr alwminiwm yn fwyaf ohonynt.

y borth

Cyflogaeth

Mae prif gyflogwyr yng Nghaergybi yn cynnwys y Porthladd/Stena, Alwminiwm Môn, Eaton, Iard Gychod Caergybi, Ysgolion, Canol Tref Caergybi, Tesco, a'r Parc Manwerthu. Caeodd ffatri Hedsrom yn ddiweddar gydag oddeutu 60 swydd yn cael eu colli. Ar y llaw arall, enillwyd oddeutu 60 o swyddi yn ddiweddar yn rhan o Ganolfan Alw newydd Stena. Mae'r Parc Manwerthu wedi creu llawer o swyddi rhan-amser, ac mae Morrisons yn creu tua 350 o swyddi. Mae Eaton wedi cyhoeddi bwriad i gau eu ffatri yn 2009, sy'n cyflogi tua 265. 

Yr Amgylchedd

Tref borthladd yw Caergybi, wedi ei lleoli mewn cyffiniau deniadol gwledig/arfordirol. Mae llawer o Ynys Cybi wedi ei dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Nodedig, ac mae'n cynnwys ardaloedd sylweddol o Arfordir Treftadaeth. Mae Ardaloedd Cadwraeth Treftadaeth wedi eu dynodi ar gyfer Canol Tref Caergybi, Traeth Newry, a Phentref Mynydd Caergybi. Mae'r ardal yn cynnwys nifer sylweddol o adeiladau rhestredig, henebion a gorchymyn cadw coed. Mae gwaith trin dwr gwastraff newydd wedi ei adeiladu i wella ansawdd dwr môr lleol.

ardal o harddwch naturiol nodedig

Cyfathrebiadau

Estynnwyd ffordd gyflym A55 Gogledd Cymru ar draws Ynys Môn yn 2001, ac mae'n darparu mynediad ffordd da. Mae Caergybi hefyd yn manteisio ar fynediad rheilffordd i Gaer a chysylltiadau fferi i Ddulyn a Dun Laoghaire. Ceir cynigion i greu maes awyr sifil bychan yn RAF y Fali gerllaw. Mae cysylltiadau cyfathrebu TG Band Llydan ar gael yng Nghaergybi.

 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2008