Gwasanaethau Fferi
Mae'r llongau fferi a ganlyn yn gweithredu o Gaergybi:
- Stena Adventurer
Gwasanaseth fferi fawr i/o Borthladd Dulyn - Stena Explorer HSS
Gwasanaeth Cyflymder Uchel i/o Dun Laoghaire - Ulysses
Fferi fawr Irish Ferries i/o Borthladd Dulyn - Swift
Fferi gyflym Irish Ferries i/o Borthladd Dulyn
Mae pob llong fel arfer yn hwylio lawer gwaith y dydd. Mae buddsoddiad sylweddol iawn wedi bod gyda chomisiynu'r ddwy long fferi fawr newydd.
Mae Stena hefyd wedi penderfynu cyflwyno gwasanaeth ychwanegol o gludiant llongau

Trafnidiaeth Ro-Ro
Bu twf sylweddol iawn yn nifer yr unedau cludiant cargo rholio ar rholio oddi ar
(hy lorïau) a gludir gan fferïau Caergybi yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae llawer o'r drafnidiaeth yn cynnwys lorïau o wahanol rannau o dir mawr Ewrop.
Datblygu Terminws 5
Mae Stena wedi buddsoddi oddeutu £15M i ddatblygu angorfa ddwy haen newydd ar Ynys Halen, a agorwyd yn swyddogol ym mis Gorffennaf 2003, i gyd-daro â chyflwyno'r archfferi Stena Adventurer. Bu i'r ehangu hwn o gyfleusterau'r porthladd elwa o arian cludiant a hygyrchedd Amcan Un yr UE o £3.5M.
Isadeiledd Mynediad/Allanfa'r Porthladd
Mae gan drefniadau mynediad/allanfa presennol y porthladd nifer o ddiffygion yn nhermau gweithrediadau porthladd, ond hefyd yn nhermau achosi tagfeydd trafnidiaeth, problemau amgylcheddol a diogelwch yn y dref. Mae cynlluniau ar gyfer trefniadau mynediad/allanfa gwahanol i'r porthladd felly wedi eu paratoi gyda golwg ar drefniadau gwell. Mae'r cynllun hwn yn dibynnu ar gyflawni cynllun ffordd gyswllt A55/Canol y Dref /Porthladd newydd arfaethedig.
Cludiant Cargo Môr
Mae gweithrediadau cargo môr di-fferi ym Mhorthladd Caergybi yn weddol gyfyngedig. Mae'r prif weithgaredd sy'n mynd ymlaen yn cynnwys glanio mwyn alwminiwm ar gyfer mwyndoddwr Alwminiwm Môn yng Nghaergybi - mae'r mwyn yn cael ei lanio ar lanfa arbennig oddi ar Ynys Halen. Gwneir defnydd achlysurol o'r porthladd/harbwr ar gyfer llwytho neu ddadlwytho nwyddau swmpus ee ar gyfer adeiladu morwrol.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae cynnyrch gorffenedig alwminiwm wedi cael ei gludo o Borthladd Caergybi i gyrchfannau Ewropeaidd.
Morglawdd yr Harbwr
Mae gan Gaergybi un o'r porthladdoedd mwyaf dwr tyfn a gysgodir ar ochr orllewinol y DU. Cafodd hwn ei greu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gydag adeiladu'r morglawdd 1.5 milltir o hir.
Mae'r hen strwythur carreg hwn yn awr mewn angen mawr cael ei adnewyddu os yw i oroesi a pharhau i fod yn ased economaidd defnyddiol - mae llawer o fusnesau a swyddi'n dibynnu arno. Mae gan y morglawdd yn glir y potensial i gael ei ddefnyddio ar gyfer defnyddiau hamdden a thwristiaeth..
Llongau Mordeithio
Mae llawer o longau mordeithio yn ymweld â Chaergybi bob blwyddyn, ac yn ei ddefnyddio i gael mynediad i atyniadau twristaidd Gogledd Cymru. Mae'n rhaid i'r llongau mordeithio mwyaf angori ar hyn o bryd y tu allan i'r harbwr, a thendio eu teithwyr. mae cynlluniau ar y gweill, ar y cyd gyda 'Cruise Wales', i greu cyfleusterau sy'n galluogi llongau mordeithio i angori, gan felly osgoi'r angen i dendro. Dylai hynny wneud y porthladd yn llawer mwy deniadol, gan gynyddu nifer galwadau'r fordaith. Gweler www.cruiseships.net
Ewch i www.holyheadport.com am wybodaeth ar y porthladd