Mae Canol Tref Caergybi yn ffocws nifer o wahanol fentrau adfywio. Mae'r prif gynlluniau presennol neu a gynllunnir wedi eu crynhoi isod:
Gwelliannau'r Dref
Mae gwahanol fentrau ar raddfa fechan yn digwydd i wella ymddangosiad ac apêl canol y dref, yn cynnwys darparu gwelyau blodau a basgedi crog, potiau blodau a choed, baneri stryd, baneri a goleuadau Nadolig.

Byrddau Arwyddion a Gwybodaeth
Mae arwyddion wedi eu hadnabod fel diffyg ac maent yn cael eu gwella. Mae nifer o fapiau ymwelwyr a byrddau dehongli wedi eu gosod. Mae gwelliannau arwyddion pellach yn cael eu cynllunio i gynorthwyo i gyfeirio pobl o feysydd parcio ac i leoedd o ddiddordeb.
Menter Treftadaeth Treflun
Mae llawer o ganol y dref wedi ei dynodi'n Ardal Gadwraeth hanesyddol. Bu cais Cam 1 gan y Cyngor Sir i Gronfa Treftadaeth y Loteri i ddarparu £1M tuag at welliannau eiddo o fewn yr ardal hon yn llwyddiannus a mae cynnig manylach Cam 2 wedi ei gyflwyno yn Mis Ionawr 2008, a disgwylir penderfyniad Mis Medi 2008. Gellir gweld gwybodaeth am gynllun Menter Treftadaeth Treflun ar www.hlf.org.uk
Cynllun Adfywio Canol Tref Caergybi (HTCRS)
Mae pecyn cyllido sy'n dod i gyfanswm o £4M wedi ei roi gyda'i gilydd gan Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer rhaglen dair blynedd o welliannau i ganol y dref. Mae £2.5M o hon yn cael ei chyllido o ddyraniad Amcan Un arbennig yr UE ar gyfer pum canol tref yn unig drwy Gymru. Mae gweddill yr arian yn dod o'r Cynulliad Cenedlaethol ac awdurdodau lleol.

Mae'r cynllun yn cynnwys yr elfenau canlynol:-
- Gwella Cilgant Stanley yn faes parcio/ maes parcio bysiau hir arhosiad - CWBLHAWYD
- Uwchraddio toiledau Sgwâr Swift a strydoedd canol y dref - GORFFENWYD
- Clirio ardaloedd adfeiliedig ar hyd Ffordd Victoria i greu maes parcio arhosiad byr - AR Y GWEILL (disgwylir ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2008)
- Gwella cefnau eiddo ar hyd Ffordd Victoria - GORFFENWYD
- Gwella tu blaen eiddo canol y dref - GORFFENWYD (blaenau eraill yn cael eu gwella dan gynlluniau eraill)
- Cefnogaeth i glirio adeiladau adfeiliedig yn Ffordd Kingsland i wneud lle i westy newydd- CWBLHAWYD
- Datblygu adeilad tirnod yn nesaf at fan glanio'r Bont - AR Y GWEILL http://www.propertypilot.co.uk/pdf/160+785.PDF (disgwylir ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2008)
Mae rhan o'r pecyn cyllido yn cynnwys arian refeniw i dalu am staff adfywio a chyllideb weithgareddau i ddarparu ar gyfer digwyddiadau a marchnata (yn cynnwys y wefan hon).
Yn ogystal mae hyn wedi ariannu cyflwyno trefniadau traffic newydd yn Stryd Stanley a Stryd Williams.
Grantiau Gwella Eiddo
Perir bod Grant Gwella'r Dref ar gael yng nghanol tref Caergybi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a all gyfrannu tuag at gostau gwella allanol cymwys. Mae Gwasanaeth Tai'r Cyngor Sir yn gallu darparu grantiau i landlordiaid ar gyfer creu neu wella llety preswyl mewn lle gwag mewn achosion cymwys. Mae cynlluniau eraill ar gael hefyd mewn rhai achosion.

Gwybodaeth Bellach
Cysyllter â: Dewi Lloyd (Rheolwr Adfywio) ar Rif ffôn. 01407 764555 neu Symudol 07747 118608