04/12/2008 - 00:20
Diweddarwyd - 03/12/2008 17:59
Strategaeth Cenedlaethol
       

Cynlluniau a Strategaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ceir llawer o gynlluniau, strategaethau a pholisïau Cymru gyfan, a all gael dylanwad ar adfywio a datblygu Caergybi. Gellir gweld gwybodaeth bellach am y rhain a'r Cynulliad Cymreig yn gyffredinol ar eu gwefan www.wales.gov.uk

"Cymru'n Un - Rhaglen Flaengar ar Gyfer Llywodraethu Cymru"

Rhaglen ydi hon a gytunwyd gan Grwpiau Llafyr a Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol yn mis Mehefin 2007. Gweler yma Rhaglen Cymru'n Un

Cymru - Economi yn Ffynnu (WAVE)

Dyma strategaeth datblygu economaidd ar gyfer Cymru. Mae Cadeirydd Bwrdd Caergybi Ymlaen wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn croesawu'r ddogfen ac yn gofyn am rai ychwanegiadau a gwelliannau penodol. Gweler copi yma Cymru - Economi yn Ffynnu

botwm pdf Sylwadau ysgrifenedig Cadeirydd Bwrdd Caergybi Ymlaen mewn ymateb i ddogfen ymgynghorol Cymru - Economi yn Ffynnu (WAVE)


Cynllun Gofodol Cymru

Bwriedir i'r ddogfen hon fod yn gynllun datblygu gofodol strategol ar gyfer Cymru. Mae diweddariad 2008 y cynllun yn adnabod Caergybi'n benodol yn ganolbwynt economaidd a lleoliad adfywio, ac yn pwysleisio pwysigrwydd ei swyddogaeth yn borth rhwng y DU ac Iwerddon. Am gopi cliciwch yma Cynllun Gofodol Cymru 2008

Fe gyflwynodd Cadeirydd Bwrdd Caergybi Ymlaen sylwadau ar y fersiwn drafft, a gellir eu gweld isod.

 Sylwadau Caergybi ar y Cynllun Gofodol Drafft.doc

Cynllun Mon a Menai

Mae y CYnulliad wedi cyhoeddi cynllun arbennig ar gyfer delio efo sialensau economaidd Ynys Mon a Gwynedd, ac yn ei gefnogi gyda £15M ychwanegol dros dair blynedd. Mae'r cynllun yn cynnwys cefnogi buddsoddi mewn canol trefi ac ardal Glannau Caergybi. Cliciwch yma am wybodaeth Cynllun Mon a Menai

Cymunedau'n Gyntaf

Hon yw rhaglen Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer adfywio cymunedol yn y mannau o angen mwyaf. Mae hon ar hyn o bryd yn cynnwys llawer o Gaergybi. Gweler yma am wybodaeth ar raglen Cymru : Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf

Cynllun Cludiant Cymru

Mae Caergybi'n nodweddu yng nghynllun cludiant y Cynulliad Cymreig fel cainc gludiant allweddol.

Strategaethau a Chynlluniau Prydain ac Ewrop  

Mae llawer o strategaethau a chynlluniau Prydain ac Ewrop yn berthnasol i Caergybi. Edrychwch ar gwefanau: 

www.communities.gov.uk www.berr.gov.uk www.wefo.wales.gov.uk 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2008