Strategaeth Caergybi Ymlaen
Mae dogfen strategaeth Caergybi Ymlaen yn darparu gweledigaeth hollgynhwysfawr ac yn gosod allan y themâu a'r blaenoriaethau ar gyfer adfywio ar gyfer y ddegawd nesaf. Paratowyd y ddogfen yn 2003 gan Gyngor Sir Ynys Môn yn dilyn cyfnod o ymchwil ac ymgynghori. Roedd hyn yn cynnwys archwilio cylluniau blaenorol a strategaethau, ystadegau a safbwyntiau a gynhyrchwyd drwy ymgyngoriadau busnes a chymunedol. Lawnsiwyd y strategaeth a'i gwneud yn gyhoeddus ym mis Mehefin 2003.

Y datganiad gweledigaeth hollgynhwysfawr ar gyfer Caergybi yw:
"Creu canolfan ryngwladol ffyniannus sy'n manteisio ar ei safle dichonadwy a strategol".
Mae'r ddogfen yn cynnwys yr adrannau a ganlyn:
CYFLWYNIAD Pwrpas y strategaeth
Y CYFLEOEDD Pam y mae Caergybi'n bwysig a bod ganddi botensial i dyfu
YR HERIAU Y problemau sydd angen mynd i'r afael â hwy
Y WELEDIGAETH Newid Caergybi er gwell
Themau a Blaenoriaethau - mannau ffocws allweddol ar gyfer adfywio:
- Dysgu a Hamdden
- Cymunedau
- Cefnogi Busnes
- Porth Celtaidd Ewropeaidd
- Twristiaeth ac Amgylchedd
Cyflwyno'r Fframwaith - peri iddo ddigwydd
Gellir llwytho copi o'r strategaeth i lawr yma.
Nodwch maint y ffeil sef 4.35MB. Os oes gennych gysylltiad araf i'r we bydd y broses islwytho yn cymryd rhai munundau.
Ymgynghori Cyhoeddus
Roedd strategaeth Caergybi Ymlaen yn destun ymgynghori cyhoeddus yn ystod 2003, ac o ganlyniad i hynny derbyniwyd oddeutu 70 o ymatebion ysgrifenedig, gyda'r mwyafrif llethol yn gefnogol iawn iddo. Cynhaliwyd arddangosfa gyhoeddus yn nodweddu'r strategaeth a chynhaliwyd llawer o brosiectau cyfansoddol yng nghanol y dref ar bedwar diwrnod o haf, a dynnodd oddeutu 2,000 o bobl. Cadarnhaodd yr ymarfer ymgynghori ddymuniad cryf gan bobl Caergybi i weld gwelliannau mawr yn digwydd. Mae ymghyngoriad pellach a ddiweddariad y strategaeth hefyd wedi cymeryd lle - gweler isod.
Arfer Dda
Mae Arolwg o Adfywio yng Nghymru (2005) Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) wedi amlygu'r dull adfywio eang a chyfunol a gynigir yn strategaeth Caergybi Ymlaen fel enghraifft o arfer dda.
Adolygu a Diweddaru
Mae adolygiad a diweddariad o'r Strategaeth wedi ei baratoi, a cafodd ei gytuno gan Fwrdd Caergybi Ymlaen yn mis Gorffennaf 2007 ar gyfer ymgynghori cyhoeddus. Cafodd y sylwadau ar y Strategaeth Drafft eu hystyried gan y Bwrdd ar y 12fed Hydref 2007, ac fe benderfynwyd i gymeradwyo'r Strategaeth newydd gyda rhai ychwanegiadau, ac fe awdurdodwyd y Grwp Strategol i gytuno diwygiadau geirio pellach. Mae'r amserlen yn clymu mewn i'r rhaglen cyllido Cydgyfeiriant Ewrop ar gyfer 2007-13 sydd wedi cychwyn.
Mae yna gryn newid wedi bod yn ystod y misoedd diwethaf, yn cynnwys dirwasgiad byd-eang, a cyhoeddi fod ffatri Eaton Electrical yn cau, sef un o brof gyflogwyr Caergybi. Disgwylir cyhoeddiad yn fuan gan Aliwminiwm Mon ar ddyfodol eu gweithgareddau yn y dyfodol. Mae'r pethau yma yn cael effaith mawr ar y Strategaeth, ac mae adolygiad o hyn ar y gweill. Bydd y mater yma yn cael ystyriaeth gan y Bwrdd yn ei gyfarfod mis Rhagfyr 2008.