03/12/2008 - 22:33
Diweddarwyd - 03/12/2008 17:59
Prif-Gynlluniau Caergybi
       

Prif Gynlluniau

Defnyddir Prif Gynlluniau i osod dull hollgynhwysfawr o ddatblygu/gwella man penodol. Maent yn cynorthwyo i ddangos y "darlun mawr" a sut y mae gwahanol brosiectau a materion yn perthnasu â'i gilydd. Maent yn dod i gael eu defnyddio'n gynyddol yn rhan o weithgareddau adfywio, yn disgyn y tu allan i gyfundrefn y cynllun datblygu statudol a gellir yn aml eu newid a'u huwchraddio fel y mae amgylchiadau'n mynnu.

prif gynllun adfywio Caergybi

Prif Gynllun Adfywio Caergybi

Mae cynllun hollgynhwysfawr wedi ei baratoi i ddangos lleoliad y prif brosiectau adfywio a'r safleoedd datblygu yng Nghaergybi. Cynllun anffurfiol yw hwn a ddefnyddir ar gyfer gwybodaeth ac esboniad - nid cynllun datblygu strategol ydyw. Dogfen weithio yw'r cynllun sy'n gofyn am adolygiadau a chywiriadau a gobeithir cynhyrchu fersiwn ddiwygiedig yn ystod 2008. 

Mae copi o brif Gynllun Drafft Caergybi ar gael i'w lwytho islwytho yma.

HHMasterplan.pdf   Prif Gynllun Caergybi

Prif Gynllun Adfywio Canol y Dref

Paratowyd prif gynllun mwy manwl ar gyfer ardal canol y dref yn 2003 i ddangos lleoliad nifer fawr o brosiectau a gynigwyd neu a adnabuwyd ar gyfer yr ardal honno. Roedd hyn yn ffurfio rhan o Arddangosfa Adfywio 2003. Eto, cynllun gweithio esbonioadol anffurfiol yw hwn a nid yw'n gynllun datblygu statudol. Mae fersiwn gyfredol i fod i gael ei pharatoi yn 2008. 

Gellir islwytho copi maint llawn o Brif Gynllun Drafft Canol y Dref yma.

Prif Gynllun Drafft Canol y Dref (1.8MB)

Cynllun i Ardal Glannau Caergybi

Mae ardal glannau Caergybi wedi ei nabod gan Fwrdd Caergybi Ymlaen fel ardal all wneud cyfraniad mawr i adfywio'r dref yn y dyfodol. Mae nifer o gynlluniau a syniadau gwahanol wedi dod ymlaen yn y blynyddoedd diweddar. Mae astudiaethau cychwynol wedi adnabod ardaloedd sy'n rhoi cyfle i ddatblygu, ond hefyd wedi adnabod ardaloedd agored sy'n bwysig i'r gymuned. Mae canyniadau'r gwaith cychwynol yma wedi ei adlewyrchu yn y Drafft o Gynllun Datblygu Lleol (CDLL) Ynys Mon, a gafodd ei ddosbarthu ar gyfer ymgynghori cyhoeddus yn Tachwedd 2008.

Mae'r CDLL drafft yn dangos dwy ardal glannau sydd angen Prif-Gynllun cydlynol.  Y prif ardal yw yr un o gwmpas Penrhyn Marchog (Soldier's Point) a'r Marina, ble mae yna nifer o gynnigion gwahanol wedi bod yn y blynyddoedd diweddar. Mae yna hefyd ardal llai sy'n cynnwys y tir/adeiladau rhwng (ac yn cynnwys) yr Amgueddfa Forol a gorsaf Gwylwyr y Glannau, ble mae yna syniadau i wneud gwelliannau. Mae'r CDLL Drafft yn bwriadu dynodi yn ffurfiol yr ardal werdd uchaf ar hyd Traeth Newry fel llain agored cyhoeddus. Cafodd y CDLL Drafft ei roi allan ar gyfer ymgynghori cyhoeddus rhwng y 12 Tachwedd 2008 a'r 9fed Tachwedd 2009, yn rhoi cyfle i'r cyhoedd i wneud sylwadau ar hyn, yn cynnwys arddangosfa yng Nghaergybi ar y 24 Tachwedd. Mae'r CDLL Drafft ar gael i'w weld yn Llyfrgell Caergybi, neu gellir ei lawrlwytho o wefan y Cyngor Sir - gweler ein tudalen "Strategaeth Sirol".  

Mae strategaeth y CDLL Drafft o hyrwyddo cynllun integredig newydd yn ardal Penrhyn Marchog a'r Marina, ond o amddiffyn llain werdd uchaf Prom Newry yn adlewyrchu sylwadau a roddwyd ymlaen gan aelodau Bwrdd Caergybi Ymlaen pan ystyriwyd y mater.

Cynllun y Glannau - Datganiad i'r Wasg Medi 07.doc                                                                         

Llun Awyr o Harbwr Allanol Caergyb

Llun gyda chaniatad Porthladdoedd Stena Cyf

Am fwy o wybodaeth am Gynlluniau Caergybi, cusylltwch efo Dewi Lloyd, Rheolwr Adfywio Caergybi ar 01407 764555 neu trwy e-bost "cyswllt" y wefan yma.


Cynllun Datblygu Statudol

Esbonir hwn ar dudalen Strategaeth y Sir.

 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2008