MODRWY OES EFYDD - mae archeolegwyr wedi darganfod modrwy aur ar safle Parc Busnes Parc Cybi sy'n dyddio i tua 2,000 C.C.
LLONG MORDAITH YN GALW - Ar ddydd Gwener y 6ed Mehefin, glaniodd y "Saga Rose" gyda 600 o deithwyr, gan ddefnyddio y jeti aliwminiwm. Bydd y gwch fawr nesaf yn galw Mis Medi.
CWCH HWYLIO FAWR - Bu cwch hwylio fawr rig-sgwar y Kaskelot sy'n 47 medr o hyd yng Nghaergybi ar Fehefin y 4ydd a'r 11fed Mehefin yn rhoi tripiau hwylio tair awr - gweler www.square-sail.com
NEWIDIADAU ETHOLIADOL - Mae pedwar cynghorydd sir newydd yn cynrychioli Ynys Gybi, yn dilyn etholiadau lleol Mai 1af. Mae yna hefyd nifer fach o gynghorwyr tref newydd. Gweler www.ynysmon.gov.uk
GWEFAN BWYD NEWYDD - Mae gwefan newydd wedi ei sefydlu i hybu bwyd a llefydd bwyta allan yn ardal Caergybi. Gweler www.holyheadfood.com
TRENAU STEM YN DOD I GAERGYBI - Bu dau dren stem yn cludo 800 o deithwyr yn dod i Gaergybi yn ystod mis Ebrill. Mae cyfanswm o ddeg tren stem i ymweld a'r dref yn ystod gwanwyn / haf 2008. Mae'r un nesaf yn galw ar Ddydd Sadwrn yr 14 Mehefin.
CYNLLUN AR GYFER YR HARBWR MEWNOL - Mae Cadeirydd Bwrdd Caergybi Ymlaen, Steve Jones, wedi cyhoeddi fod syniad yn bodoli gan ymgynghorwyr i ail-ddatblygu rhan o'r Harbwr Mewnol yn y dyfodol, a cafodd eu bwriad ei ddatgelu i gyfarfod y Bwrdd yn mis Ebrill.
ADEILADU SIOP MORRISONS - Mae gwaith paratoi safle wedi cychwyn ar gyfer siop fawr newydd Morrisons, gyda'r ffram ddur yn cael ei adeiladu. Mae Morrisons wedi hysbysebu swyddi rheolwr ac is-reolwr i'r siop.
LLITHRFA A STORFA CYCHOD - Mae cynllun £500k wedi cychwyn er mwyn gwella adeiledd i gychod pysgota bach ger Bol Sach yn yr harbwr allanol. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Gronfa Pysgodfeydd Ewrop ac Adran Pysgodfeydd y Cynlliad.
SINEMA AR AGOR - Mae Sinema'r Empire yng Nghaergybi wedi ail-agor.
CYSWLLT GEFEILLIO YN DATHLU PENBLWYDD - Bu Corff Cyswllt Caergybi a Dun Laoghaire yn dathlu ei benblwydd yn ddeg oed mewn cinio yng Nghwesty Bae Trearddur. Derbyniodd Jeff Evans, trefnydd "Y Linc" yng Nghaergybi, wobr a llythyr o ddiolch gan brif weinidog Iwerddon Bertie Aherne.
GWELLA SIOP CANOL Y DREF - Mae siop fawr y Co-op yn Stryd y Farchnad wedi derbyn buddsoddiad preifat o £300k, yn cynnwys gwella blaen y siop a'r tu mewn.
CANOLFAN HYFFORDDI Y GEMAU OLYMPAIDD - Cafodd Caergybi ei ddewis fel lleoliad hyfforddi codi pwysau yn ystod Gemau Olympaidd 2012. Bydd hwn yn cael ei leoli yng Nghlwb Codi Pwysau Caergybi yn Millbank, sydd yn adnabyddus am lwyddiant yn y maes yma, yn cynnwys ennill medalau rhyngwladol.
UNEDAU BUSNES NEWYDD - Mae gwaith wedi cychwyn ar adeiladu bloc o bedair uned busnes newydd ar Barc Busnes Penrhos. Disgwylir y bydd y datblygiad yma o unedau 150msg gan y Cyngor Sir i gwrdd a'r galw lleol am eiddo fel hyn yn barod erbyn mis Awst.
LANSIO CYNLLUN ADFYWIO £15M - Cafodd cynllun cyllido adfywio stategol ei lansio yng Nghwesty Bae Trearddur gan Leighton Andrews, Gweinidog yn Llywodraeth y Cynulliad. Disgwylir i Gaergybi dderbyn siar sylweddol o hwn tuag at gynlluniau megis adfywio glannau'r dref a creu glanfa i gychod mordeithio.
CLOD I FWYTY NEWYDD - Cafodd bwyty newydd Mala's Bistro yng nghanol y dref glod hael mewn adolygiad "Taste Test" papur newydd y Daily Post.
TREN BACH YN ENNILL GWOBR TWRISTIAETH - Mae tren bach Caergybi wedi ennill gwbobr fel atyniad twristiaeth newydd gorau Ynys Mon mewn seremoni gwobrwyo twristiaeth a gynhalwyd yng Nghwesty Treysgawen.
TREF YN GYMWYS AM GYLLID ADFYWIO - Mae Caergybi wedi ei gynnwys ar restr o 44 o lefydd sy'n mynd i fod yn gymwys i ymgeisio am siar o £100M o gyllid Blaenoriaeth 5 ar gyfer "Adeiladu Cymunedau Cynaladwy" dan raglen Cydgyfeiriant Ewrop. Bydd y cyllid ar gyfer adfywio ffisegol, yn cynnwys gwelliannau canol tref, ac adfywio cymunedol.
FFRAM ADEILAD NEWYDD YN NEWID GOLYGFA - Mae ffram ddur adeilad £2M newydd yn newid ymddangosiad canol y dref. Mae'r darbygiad caffi/bar a swyddfeydd yn ffurfio rhan o becyn £4m Gwella Canol Tref Caergybi sy'n cael ei ariannu yn bennaf o Ewrop. Mae gwelliannau eraill ar y gweill ar Ffordd Fictoria yn cynnwys gwella cefnau bler a creu maes parcio i ymwelwyr.
CYHOEDDIAD DATBLYGIAD I'R GLANNAU - Mae Stena wedi creu cyd-fenter efo Cwmni Buddsoddi Conygar plc er mwyn datblygu tir dros-ben sydd yn eu perchnogaeth yng Nghaergybi. Mae Conygar wedi ymrwymo £7M er mwyn talu costau datblygu'r cynllun gyda Stena yn cyfranu tir. Mae Conygar eisioes yn datblygu cynllun sylweddol ar gyfer Doc Penfro - gweler www.martelloquays.co.uk am fanylion pellach.
Ar gyfer eitemau newydd cynt, gweler "2007" yn ein hadran "Newyddion a Digwyddiadau"